Monthly Archives: Ionawr 2013

6. Iolop

Y gair heddiw: iolop.

e.e. beth oedd ar yr hen iolop ‘na yn spîdo … mae’r bachan ‘na yn real iolop …

Iolop = dyn/menyw ddwl, ffŵl, rhywun gwyllt neu arw.

5. Wsnoth

Mae’r gair heddiw’n weddol amlwg, os nad yn gyfarwydd. Wsnoth.

e.e. “halith hi wsnoth i wella”, “sdim ise siopa wsnoth nesa” …

Hefyd, mae’n werth sôn am pysownoth. Mae dwy wsnoth yn gwneud pysownoth!

e.e. “wela’i di bysownoth i fory”

Wsnoth = wythnos. Pysownoth = pythefnos.

4. Glatsh

Y gair ar gyfer heddiw yw glatsh.

Mae ‘na fwy nac un ystyr i glatsh yn iaith Cwmereg, e.e.

(i) fe wna’i hwnna glatsh … ddaw e nawr glatsh … aeth hi o ‘ma glatsh … caeodd y drws glatsh

(ii) mae’r cacs ‘ma’n glatsh

Glatsh = (i) yn glou/gyflym a (ii) cacennau heb eu cwca/coginio ddigon, h.y. eu bod nhw’n swps/soggy y tu fewn

3. Wmed

Efallai y bydd y gair hwn yn fwy cyfarwydd na’r lleill. Wmed.

Ambell enghraifft: golchi wmed … dou wmedog … wmed pert … yn wmed yr houl …

Wmed = wyneb.

2. Pwff-wff

Enw newydd yw pwff-wff.

Y cyd-destun: tua diwedd 2011/dechrau 2012 roedden ni fel teulu yn prysur baratoi erbyn fy mhriodas i a Rob. Roedd mam – fel pob mother of the bride – eisiau edrych ar ei gorau, a gan ei bod hi o gorff bach, doedd hi ddim eisiau hat. Yn hytrach roedd hi eisiau fascinator. Doedd hi ddim yn gallu cofio’r gair fascinator, felly dywedodd wrth Delyth Angharad, y sawl a wnaeth ein gwisgoedd, ei bod hi eisiau pwff-wff yn ei gwallt. Enw da! A pwff-wff yw’r term rwy’n ei ddefnyddio nawr am fascinator – a llawer o’m tylwyth a ffrinidau a hefyd fy morwyn briodas a’i theulu!

Pwff-wff = fascinator.

Fy nhad a mam a fi – a’r pwff-wff

1. Jimo

Reit, dyma ddechrau drwy nodi un term Cwmereg: jimo.

Dyma’r cyd-destun: dwy o’m ffrindiau coleg yn aros ar y ffarm ac wedi bwyta swper ar nos Sadwrn, dyma mam yn troi atyn nhw a dweud “Na fe ferched, cerwch chi lan stâr os y’ch chi moyn jimo”. Sdim rhyfedd efallai i Sharon a Ffion bipo’n blanc a diolch yn betrusgar!

Jimo = ymbincio.

Blog newydd

Helo ddarllenydd! Bwriad hyn o flog yw nodi ar gof a chadw y dafodiaith gyfoethog rwy’ wedi cael y fraint o gael fy magu ynddi. Nid yw mam – sy’n cael ei hadnabod wrth sawl enw (Christina Cwmere, Christina Hughes, Christina Morgans, Christina Blaenfallen) – wedi symud yn bell erioed. Fe’i ganed ar fferm yn ardal Cribyn adeg yr Ail Ryfel Byd, symudodd gyda’r teulu i fferm Cwmere rhwng Felinfach a Temple Bar pan oedd yn 15 oed, ac wedyn wedi priodi yn 1975, symudodd i dop Dyffryn Aeron. Ac yn bendant, mae ganddi dafodiaith arbennig iawn. Mae ei thafodiaith a’i geirfa wedi bod yn benbleth i rai o’m ffrindiau (yn enwedig o’r gogledd!) a gan fod un ffrind wedi galw’i thafodiaith yn “Cwmereg”, dyma ddechrau nodi rhai o’r termau a’r brawddegau lliwgar y mae’n eu defnyddio. Efallai y bydd ambell air yn gyfarwydd i sawl Cardi, eraill yn hollol ddiarth! Ac felly, gobeithio y bydd y blog hwn yn help wrth i fi geisio cadw’r dafodiaith yn fyw ac yn iach i’r oesoedd a ddêl.