Monthly Archives: Mawrth 2013

16. Ebol

A hithe’n Sul y Blodau, mae’n addas ‘mod i’n sôn am ebol. (Fel mae’n digwydd, dim ond yn y cwrdd y bore ‘ma y gwnes i feddwl am sgrifennu am ebol ar y blog heddiw … ond dyw hynny ddim yn golygu nad o’n i wedi gwrando ar y bregeth!)

Mae ebol, wrth gwrs, yn enw safonol yn yr iaith Gymraeg. A heddiw, ar Sul y Blodau, ry’n ni’n cofio am daith Iesu ar gefn ebol i Jerwsalem. P’run bynnag, rwy’n gyfarwydd â chlywed mam yn defnyddio’r enw ‘ebol’ i ddisgrifio tipyn o gymeriad. “Mae hwn-a-hwn yn ebol o foi…”, neu “Roedd hi’n eboles pan oedd hi’n ifanc…”

Yn yr un modd, mae donci (h.y. ‘donkey’) yn cael ei ddefnyddio gan mam a finnau ac aml un arall ar gyfer rhywun styfnig.

15. Racabobins

Rwy’n aml yn mynd yn racabobins, mae’n debyg! Bydda’i hefyd yn ddwl bost bared, neu’n llosgi’n fy nghroen. Diolch byth, pan oeddwn i’n blentyn y byddai mam yn dueddol o ddweud y pethe ‘ma wrtha’i!

Ystyr racabobins yw gwyllt, afreolus, mas o reolaeth. Person neu greadur sydd gan amlaf yn mynd yn racabobins – gall dafad fynd yn racabobins ar ôl iddi gael ei chynhyrfu, neu os yw rhywun yn camfihafio, mae hwnnw’n racabobins. Nid yw racabobins o reidrwydd yn golygu person drwg serch hynny.

Mae llosgi’n fy nghroen yn golygu bod yn ‘hyper’. Pan fyddwn i’n actio ychydig yn ddwl yn blentyn, byddai mam yn dweud fy mod i’n llosgi’n fy nghroen. Byddwn i gan amlaf yn ymddwyn yn sili, yn bownso rownd y lle neu gormod o egni gen i i fod o unrhyw sens!

Felly, dyna ni, cwpwl o ffyrdd gwahanol i ddisgrifio ymddygiad rhywun sy’n cael pwl o wylltineb!

14. Slibit a Jiffad

Fydda’i ddim slibit yn gwneud y peth-a’r-peth. Ystyr hyn yw na fydda’i fawr o dro yn gwneud y peth-a’r-peth. Mae ‘na lot o eiriau tebyg yn y Gymraeg – eiliad, chwinciad, cachad … a lot o amrywiaethau eraill mae’n siŵr.

Feddyliais i am hwn ddoe pan o’n i’n y gwaith ac wedi e-bostio fy mhennaeth adran yn awgrymu newid rhywbeth ar-lein, a sgrifennes i “Fydden i ddim jiffad wrthi.” Nawr, ro’n i’n gwybod fy mod i wedi etifeddu’r gair “jiffad” gan un o’m rhieni, ond yn eitha’ siŵr taw gan fy nhad y dysges i’r gair. Heddiw, felly, a finnau ar ffarm Blaenfallen yn paratoi erbyn y tymor wyna dyma fi’n holi pa eiriau fydden nhw’n ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn. A dyma dat yn cadarnhau y bydde fe’n dweud “Fydda’i ddim jiffad yn gwneud hwn-a’r-llall”. Ac er taw blog am Gwmereg yw hwn, dwi ddim ishe gadael fy nhad mas ohoni chwaith, druan ag e!

Ond dyma mam wedyn yn porthi ac yn dweud “Fydda’i ddim slibit”. Diolch mam am y perl yna, eto fyth!

Sammy Morgans, Blaenfallen

Dat – Sammy Blaenfallen

13. Rhico

Gair bach neis sydd gen i y tro ‘ma: rhico.

Bydde mam yn rhico gyda fi petawn i’n ferch dda. Ond mae’n gredwr cryf nad lle rhiant yw rhico gyda’u plant wrth eraill.

Beth yw rhico? Canmol. Ac mewn gwirionedd dim ond yng nghyd-destun canmol pobol rwy’ wedi clywed mam yn defnyddio’r gair. Does gen i ddim cof ei bod hi’n “rhico” pryd o fwyd neu olygfa neu raglen deledu. Dim ond “rhico gyda” rhywun.

12. Hwp-di-hap

Ar y ffordd i’r gwaith bore ‘ma, fe ddwedes i’n gwbwl naturiol fod rhywbeth yn “hwp-di-hap”. A dyma sylweddoli fy mod i’n bendant wedi etifeddu’r iaith Gwmereg!

Dwi ddim yn cofio nawr beth yn gwmws oedd yn hwp-di-hap, ond mae’n golygu fod rhywbeth yn ddi-dal, yn anwadal. Gall person fod yn hwp-di-hap, neu gall rywbeth ddigwydd yn hwp-di-hap, h.y. yn anhrefnus.