Lolfa, stafell fyw, ffrynt rŵm yw gegin ore.
Yn llythrennol, gellir ei gyfieithu’n “best kitchen”. Ond fydde hynny ddim yn gwneud synnwyr. Pan o’n i’n cael fy magu ar y ffarm, peth newydd oedd cegin. Mae hyn yn gwneud i fi swnio fel fy mod i’n pethyn i oes yr arth a’r blaidd, ond llaethdy oedd ‘da ni pan ges i fy ngeni – stafell oer a thywyll ag iddi dalp o graig a slab o lechen yn ‘worktop’. Gegin fach oedd enw’r stafell ar bwys y llaethdy lle’r oedd y ford a chadeiriau, a’r rayburn, a lle’r oedd welingtons a holl bethe anghenrheidiol i’r ffarm yn cael eu cadw’n gras yn y cypyrddau. Gelon ni gegin go-iawn tua dechrau’r 1980au, a nid cegin oedden ni fel teulu’n ei alw, ond kitchen. Rhywbeth newydd, modern (hyd yn oed foreign!) oedd kitchen felly! Roedd hi’n beth amheuthun i mam gael yr holl kitchen units, a llond stafell o worktop! (Rwy’n cymryd taw llaethdy sy’n Cwmere o hyd – stafell oer a thywyll sydd lawr dwy neu dair stepen o’r stafell lle maen nhw’n byw o ddydd o ddydd.)
P’run bynnag, y gegin orau (“gegin ore” ar lafar) yw’r stafell lle mae’r lle tân, y soffa, y teledu, y seld (neu’r dreser) a’r cwpwrdd cornel, a lle’r ydym fel teulu yn “byw”. Mae’n bosib eistedd lawr a chael hoe yn y gegin fach â’r welingtons yn dal am ein traed, ond rhaid tynnu’r welingtons bant i fynd i’r gegin ore, neu gwae ni!!
Mae’r gegin ore hefyd yn wahanol i’r parlwr, lle mae rhagor o ddodrefn yn byw, a lle mae’n bosib i aelodau hŷn y teulu fyw mewn gwaeledd. I’r parlwr hefyd, yn draddodiadol, y daw corff marw cyn ei gladdu; does gen i ddim cof i hyn ddigwydd yn Blaenfallen ers i fi gael fy ngeni.
Dyma lun oddi ar rifyn diweddar o Dechrau Canu Dechrau Canmol, yn y gegin ore.