Galwodd Rob a fi ddoe i weld Wncwl Bryn. Mae e a’r teulu yn dal i fyw yn Cwmere, ac fel brawd mawr i mam, mae’n naturiol ei fod e hefyd yn siarad iaith “Cwmereg”!
Roedd e’n adrodd straeon o’i arhosiad mewn ysbyty yn ddiweddar, a soniodd am “sgaram o fenyw” a fu ymhlith y rhai fu’n ei drin. Gorfod i fi chwerthin, achos roeddwn i’n gallu clywed mam – a mam-gu o ran hynny – yn disgrifio rhywun fel sgaram.
Holes i mam beth yw ystyr sgaram, ac yn syth dyma hi’n dweud “sgaram o fenyw”. Mae’n amlwg felly nad yw dyn yn gallu bod yn sgaram!! Ges i ymhelaethiad, bod sgaram o fenyw yn golygu “menyw fowr”.
Ro’n i wedi cymryd y byddai sgaram yn gyfystyr â swigw, ond na; maint corff menyw sy’n ei gwneud yn sgaram, tra bod swigw i’w wneud ag ymddygiad.
Ac efallai ei bod hi’n werth dweud gair am swigw.
e.e. “Hen swigw o fenyw oedd gwraig y plas” … “odd dim ise i honna bipo lawr arnon ni, y swigw â hi”
Sgaram = menyw fawr
Swigw = menyw gas, annymunol, fras.
Mam ac Wncwl Bryn