9. Sgaram

Galwodd Rob a fi ddoe i weld Wncwl Bryn. Mae e a’r teulu yn dal i fyw yn Cwmere, ac fel brawd mawr i mam, mae’n naturiol ei fod e hefyd yn siarad iaith “Cwmereg”!

Roedd e’n adrodd straeon o’i arhosiad mewn ysbyty yn ddiweddar, a soniodd am “sgaram o fenyw” a fu ymhlith y rhai fu’n ei drin. Gorfod i fi chwerthin, achos roeddwn i’n gallu clywed mam – a mam-gu o ran hynny – yn disgrifio rhywun fel sgaram.

Holes i mam beth yw ystyr sgaram, ac yn syth dyma hi’n dweud “sgaram o fenyw”. Mae’n amlwg felly nad yw dyn yn gallu bod yn sgaram!! Ges i ymhelaethiad, bod sgaram o fenyw yn golygu “menyw fowr”.

Ro’n i wedi cymryd y byddai sgaram yn gyfystyr â swigw, ond na; maint corff menyw sy’n ei gwneud yn sgaram, tra bod swigw i’w wneud ag ymddygiad.

Ac efallai ei bod hi’n werth dweud gair am swigw.

e.e. “Hen swigw o fenyw oedd gwraig y plas” … “odd dim ise i honna bipo lawr arnon ni, y swigw â hi”

Sgaram = menyw fawr
Swigw = menyw gas, annymunol, fras.

Mam ac Wncwl Bryn

2 thoughts on “9. Sgaram

  1. siantirdu Chwefror 20, 2013 am 9:32 pm Reply

    “Sgaram” yn ddierth i fi ond fi’n cofio mam-gu’n gweud “swigw”

  2. 19. Soga | Cwmereg Mehefin 24, 2013 am 11:50 am Reply

    […] rwy’n cymryd taw rhyw fath o air gwahanol am swigw yw soga. Gair da! Ac ry’n ni i gyd yn nabod hen sogas o fenwod mae’n […]

Gadael sylw