Monthly Archives: Chwefror 2013

Ar y tonfeddi

Mae’r blog wedi cael sylw cenedlaethol, bois bach! Pwy feddylie?! Diolch i Iola Wyn am y cyfweliad ar BBC Radio Cymru.

Ac mae hyd yn oed Aled Hall a Nigel Owens wedi rhoi mensh i pwff-wff ar Twitter … er falle nad yn yr un ystyr â fascinator!

Radio Cymru

Radio Cymru

11. Ar Sliw

Ges i gyfle ddoe i dreulio’r diwrnod ar y ffarm ‘da dat a mam, yn paratoi erbyn y tymor wyna. Trueni na fyddwn i wedi recordio mam yn siarad – bydden i wedi cael digonedd i flogio yn ei gylch!

Ta beth, un dywediad mae’n dweud yn aml yw bod rhywbeth “ar sliw”. Nawr, oherwydd fy mod i wedi magu yn sŵn tafodiaith fy rhieni, mae’n anodd i fi wahaniaethu weithiau rhwng yr hyn sy’n Gymraeg “cywir” a’r hyn sy’n “Cwmereg”. Rwy’n dyfalu fod “ar sliw” yn y categori Cwmereg!

Y cyd-destun: wrthi’n cerdded trwy Gae Moch oedden ni yn edrych a oedd y nant yn ddigon ‘accessible’ i ddefaid, am fod y tywydd yn oer a dŵr llonydd mewn cafnau ac ati wedi rhewi. Ac roedd ‘na lwybr digon anhylaw mewn un man – “mae ‘na lwybyr i ga’l fan hyn, ond mae e ar sliw” medde mam. Hynny yw, roedd y llwybr ar slant neu ar oledd. (A diwedd y stori oedd i mam a fi ddefnyddio’n traed a’n pastynau i wella’r llwybr – cyn i neb feddwl nad y’n ni’n edrych ar ôl ein stoc!)

Gall unrhyw beth fel silff neu ddodrefnyn fod ar sliw, neu ddilledyn (os nad yw’n stêt).

10. -en

Nid gair penodol sydd gen i y tro ‘ma, yn hytrach y talfyriad “-en” i eiriau.

Pan yn cyfeirio at ambell enw benywaidd unigol, bydd mam yn hwpo “-en” ar ei ddiwedd – e.e. sosejen, weetabixen, welsh cêcen. Yn ogystal, pan yn cyfeirio at fwy nac un, bydd mam yn dweud pethe fel “cymer ddwy weetabixen”, “wyt ti ise tair sosejen i swper?”, a.y.b.

9. Sgaram

Galwodd Rob a fi ddoe i weld Wncwl Bryn. Mae e a’r teulu yn dal i fyw yn Cwmere, ac fel brawd mawr i mam, mae’n naturiol ei fod e hefyd yn siarad iaith “Cwmereg”!

Roedd e’n adrodd straeon o’i arhosiad mewn ysbyty yn ddiweddar, a soniodd am “sgaram o fenyw” a fu ymhlith y rhai fu’n ei drin. Gorfod i fi chwerthin, achos roeddwn i’n gallu clywed mam – a mam-gu o ran hynny – yn disgrifio rhywun fel sgaram.

Holes i mam beth yw ystyr sgaram, ac yn syth dyma hi’n dweud “sgaram o fenyw”. Mae’n amlwg felly nad yw dyn yn gallu bod yn sgaram!! Ges i ymhelaethiad, bod sgaram o fenyw yn golygu “menyw fowr”.

Ro’n i wedi cymryd y byddai sgaram yn gyfystyr â swigw, ond na; maint corff menyw sy’n ei gwneud yn sgaram, tra bod swigw i’w wneud ag ymddygiad.

Ac efallai ei bod hi’n werth dweud gair am swigw.

e.e. “Hen swigw o fenyw oedd gwraig y plas” … “odd dim ise i honna bipo lawr arnon ni, y swigw â hi”

Sgaram = menyw fawr
Swigw = menyw gas, annymunol, fras.

Mam ac Wncwl Bryn

8. Ric-rac

Maddeuwch y tawelwch yr wythnos hon. Y gair heddiw yw ric-rac.

Mae o leia’ dau ystyr i ric-rac …

1. Pan oeddwn i’n blentyn yn gwneud rhyw brosiectau neu’n torri labeli anrhegion Dolig o hen gardiau, mi fyddai mam yn cyfeirio at y siswrn zig zag fel “shishwrn ric-rac”.

2. Ar y draffordd, pan fydden i’n mynd ar y streips cas ‘na (rumble strips, ie?) rhwng y lôn allanol a’r llain galed, byddai mam yn dweud “owff, cer bant o’r ric-rac ‘na”

Felly, gallwn fod yn weddol saff bod ric-rac yn gallu golygu zig-zag a garw!

Siswrn ric-rac

7. Jingelarings

Jingelarings!

‘Oes ise cyment o jingelarings ar honna?’

Jingelarings = (gormod o) jewellery, neu jewellery ychydig yn tshep/tacky yr olwg.