Fe ddywedith mam yn aml fod hwn-a-hwn neu hon-a-hon yn berson gwrion.
“Croten wrion fuodd hi erio’d”
“Mae rhwbeth yn wrion iawn ambyti fe”
Ystyr gwrion yw diniwed a neis (weithiau, yn ymylu ar bod bach yn ‘sofft’). Tybed a oes cysylltiad rhwng y gair gwrion a gwirion? Rwy’ wedi edrych ar Eiriadur y Brifysgol a gweld bod yna ail ystyr i wirion (ar wahan i ‘daft’ a ‘silly’) sef “pur, dibechod, di-fai, diwair; cywir, ffyddlon, geirwir; dieuog, diniwed, syml, diddrwg”. Mae’n amlwg felly taw llygriad o’r ystyr hwnnw i ‘wirion’ yw ‘gwrion’.
Gadael sylw