Nid un gair sydd gen i y tro ‘ma, ond habit mam (ac eraill yng Ngheredigion, o’m profiad i) i roi sillaf ychwanegol mewn geiriau Saesneg.
- Pensioneers (4 sillaf) yn hytrach na Pensioners (3 sillaf)
- Casuality (5 sillaf, gyda’r “i” ychwanegol) yn hytrach na Casualty (4 sillaf)
- Mysharŵms (3 sillaf) yn hytrach na Mushrooms (2 sillaf)
Efallai fod ‘na eraill ar lawr gwlad yng Ngheredigion …
Wedi clywed pensioneers gan fenyw o orllewin Sir Gâr (ddim yn cofio’n union ble, ond rhywle reit lawr yn ardal y wês wês) ac mae mysharwms yn weddol gyffredin gan lawer yn y Sir. Shrwmps yw’n gair ni gartre, gyda llaw: tafodiaeth Cwm-wysg am wn i.
Sa i’n gyfarwydd o gwbwl â Casuality. Ai dim ond yng Ngheredigion mae’n digwydd?