23. Gegin Ore

Lolfa, stafell fyw, ffrynt rŵm yw gegin ore.

Yn llythrennol, gellir ei gyfieithu’n “best kitchen”. Ond fydde hynny ddim yn gwneud synnwyr. Pan o’n i’n cael fy magu ar y ffarm, peth newydd oedd cegin. Mae hyn yn gwneud i fi swnio fel fy mod i’n pethyn i oes yr arth a’r blaidd, ond llaethdy oedd ‘da ni pan ges i fy ngeni – stafell oer a thywyll ag iddi dalp o graig a slab o lechen yn ‘worktop’. Gegin fach oedd enw’r stafell ar bwys y llaethdy lle’r oedd y ford a chadeiriau, a’r rayburn, a lle’r oedd welingtons a holl bethe anghenrheidiol i’r ffarm yn cael eu cadw’n gras yn y cypyrddau. Gelon ni gegin go-iawn tua dechrau’r 1980au, a nid cegin oedden ni fel teulu’n ei alw, ond kitchen. Rhywbeth newydd, modern (hyd yn oed foreign!) oedd kitchen felly! Roedd hi’n beth amheuthun i mam gael yr holl kitchen units, a llond stafell o worktop! (Rwy’n cymryd taw llaethdy sy’n Cwmere o hyd – stafell oer a thywyll sydd lawr dwy neu dair stepen o’r stafell lle maen nhw’n byw o ddydd o ddydd.)

P’run bynnag, y gegin orau (“gegin ore” ar lafar) yw’r stafell lle mae’r lle tân, y soffa, y teledu, y seld (neu’r dreser) a’r cwpwrdd cornel, a lle’r ydym fel teulu yn “byw”. Mae’n bosib eistedd lawr a chael hoe yn y gegin fach â’r welingtons yn dal am ein traed, ond rhaid tynnu’r welingtons bant i fynd i’r gegin ore, neu gwae ni!!

Mae’r gegin ore hefyd yn wahanol i’r parlwr, lle mae rhagor o ddodrefn yn byw, a lle mae’n bosib i aelodau hŷn y teulu fyw mewn gwaeledd. I’r parlwr hefyd, yn draddodiadol, y daw corff marw cyn ei gladdu; does gen i ddim cof i hyn ddigwydd yn Blaenfallen ers i fi gael fy ngeni.

Dyma lun oddi ar rifyn diweddar o Dechrau Canu Dechrau Canmol, yn y gegin ore.

Gegin ore - DCDC

22. Gwrion

Fe ddywedith mam yn aml fod hwn-a-hwn neu hon-a-hon yn berson gwrion.

“Croten wrion fuodd hi erio’d”

“Mae rhwbeth yn wrion iawn ambyti fe”

Ystyr gwrion yw diniwed a neis (weithiau, yn ymylu ar bod bach yn ‘sofft’). Tybed a oes cysylltiad rhwng y gair gwrion a gwirion? Rwy’ wedi edrych ar Eiriadur y Brifysgol a gweld bod yna ail ystyr i wirion (ar wahan i ‘daft’ a ‘silly’) sef “pur, dibechod, di-fai, diwair; cywir, ffyddlon, geirwir; dieuog, diniwed, syml, diddrwg”. Mae’n amlwg felly taw llygriad o’r ystyr hwnnw i ‘wirion’ yw ‘gwrion’.

21. Golgi

Talfyriad, am wn i, yw’r gair “gol’gu” (a gaiff ei ynganu fel “golgi”, sy’n odli â “bolgi”) o’r gair “golygu”.

Nid “golygu” testun neu iaith neu ba beth bynnag arall a “olygir” yw’r ystyr fan hyn, ond bwriadu.

Dyma ambell enghraifft:

“Wyt ti’n golgi mynd i’r dre heddi?” = Wyt ti’n bwriadu mynd i’r dre heddiw?

“Doedd e ddim wedi golgi gweud y cwbwl” = Doedd e ddim wedi bwriadu dweud y cwbwl.

Rwy’n credu fod y gair hwn yn ymestyn y tu hwnt i iaith mam a’i thylwyth – mae ‘nhad yn ei ddefnyddio, a byddwn innau’n fwy na thebygol o’i ddefnyddio ar lafar hefyd.

20. Palo

Rwy’ boti palo!

Dyna fy sefyllfa i heddi – boti palo, sef bron â thoddi/ymlâdd/darfod!

Mae’r ymadrodd yn cael ei ddweud ran amlaf ar ddiwrnodau twym pan fod rhywun wedi cwblhau diwrnod o waith. Byddai mam a’i thylwyth yn dueddol o’i ddweud ar derfyn diwrnod wrth y cynhaeaf gwair, enghraifft. A chan ei bod hi mor dwym ar hyn o bryd yng Nghymru fach, rwy’ “boti palo” yn y bore, dim ond wedi bod mas am wâc i’r dre!

19. Soga

Dyw mam ddim yn gallu texto na defnyddio ffôn glyfar, ond mae hi’n gallu hala ‘instant message’ ar y cyfrifiadur. Ar IM roedden ni’n dwy yn gohebu, a finnau’n cael rant fach am rywbeth a rhywun oedd yn ymddangos fel bach o broblem ar y pryd, a dyma mam yn dweud:

“hen soga a hi [emoticon person crac – mae defnyddio emoticons yn dal yn novelty gan mam!!!] – dyw hi ddim yn dwp i gyd”

Wn i ddim os taw bwriad gair o gysur mam fel petai oedd hala fi chwerthin, ond dyna’n gwmws wnes i, a theipo neges nôl iddi’n holi “beth yw soga?!”

“wmbo, ni yn iwso soga fel soga o fenyw [emoticon person mewn syndod]”

Felly, rwy’n cymryd taw rhyw fath o air gwahanol am swigw yw soga. Gair da! Ac ry’n ni i gyd yn nabod hen sogas o fenwod mae’n siŵr!

18. Pensioneers, Casuality, Musharŵms …

Nid un gair sydd gen i y tro ‘ma, ond habit mam (ac eraill yng Ngheredigion, o’m profiad i) i roi sillaf ychwanegol mewn geiriau Saesneg.

  • Pensioneers (4 sillaf) yn hytrach na Pensioners (3 sillaf)
  • Casuality (5 sillaf, gyda’r “i” ychwanegol) yn hytrach na Casualty (4 sillaf)
  • Mysharŵms (3 sillaf) yn hytrach na Mushrooms (2 sillaf)

Efallai fod ‘na eraill ar lawr gwlad yng Ngheredigion …

17. Bwmbwrth

Gwnes i ddigwydd dweud wrth Rob (y gŵr) pa noson fy ‘mod i fel bwmbwrth. Yn naturiol, holodd e beth yw bwmbwrth, a chyfaddefes i nad o’n i’n siŵr. Ond o roi’r sgwrs yn ei gyd-destun, ro’n i’n teimlo’n reit wan a bach o ‘drip’, yn teimlo fy mod i wedi cwyno gormod yn sgil ychydig o flinder oedd arna’i.

Mae’n amlwg fod y gair ‘bwmbwrth’ yn fy is-ymwybod, felly dyma fynd at lygad y ffynnon a holi mam beth yw ystyr yr enw.

Rhywbeth ar ben ceffyl yw bwmbwrth, rhyw fath o fasg neu ‘blinkers’. Ond o’i ddefnyddio yng ngeirfa Cwmereg, mae hefyd yn golygu bod yn bach o niwsans neu’n dreth ar amynedd rhywun.

16. Ebol

A hithe’n Sul y Blodau, mae’n addas ‘mod i’n sôn am ebol. (Fel mae’n digwydd, dim ond yn y cwrdd y bore ‘ma y gwnes i feddwl am sgrifennu am ebol ar y blog heddiw … ond dyw hynny ddim yn golygu nad o’n i wedi gwrando ar y bregeth!)

Mae ebol, wrth gwrs, yn enw safonol yn yr iaith Gymraeg. A heddiw, ar Sul y Blodau, ry’n ni’n cofio am daith Iesu ar gefn ebol i Jerwsalem. P’run bynnag, rwy’n gyfarwydd â chlywed mam yn defnyddio’r enw ‘ebol’ i ddisgrifio tipyn o gymeriad. “Mae hwn-a-hwn yn ebol o foi…”, neu “Roedd hi’n eboles pan oedd hi’n ifanc…”

Yn yr un modd, mae donci (h.y. ‘donkey’) yn cael ei ddefnyddio gan mam a finnau ac aml un arall ar gyfer rhywun styfnig.

15. Racabobins

Rwy’n aml yn mynd yn racabobins, mae’n debyg! Bydda’i hefyd yn ddwl bost bared, neu’n llosgi’n fy nghroen. Diolch byth, pan oeddwn i’n blentyn y byddai mam yn dueddol o ddweud y pethe ‘ma wrtha’i!

Ystyr racabobins yw gwyllt, afreolus, mas o reolaeth. Person neu greadur sydd gan amlaf yn mynd yn racabobins – gall dafad fynd yn racabobins ar ôl iddi gael ei chynhyrfu, neu os yw rhywun yn camfihafio, mae hwnnw’n racabobins. Nid yw racabobins o reidrwydd yn golygu person drwg serch hynny.

Mae llosgi’n fy nghroen yn golygu bod yn ‘hyper’. Pan fyddwn i’n actio ychydig yn ddwl yn blentyn, byddai mam yn dweud fy mod i’n llosgi’n fy nghroen. Byddwn i gan amlaf yn ymddwyn yn sili, yn bownso rownd y lle neu gormod o egni gen i i fod o unrhyw sens!

Felly, dyna ni, cwpwl o ffyrdd gwahanol i ddisgrifio ymddygiad rhywun sy’n cael pwl o wylltineb!

14. Slibit a Jiffad

Fydda’i ddim slibit yn gwneud y peth-a’r-peth. Ystyr hyn yw na fydda’i fawr o dro yn gwneud y peth-a’r-peth. Mae ‘na lot o eiriau tebyg yn y Gymraeg – eiliad, chwinciad, cachad … a lot o amrywiaethau eraill mae’n siŵr.

Feddyliais i am hwn ddoe pan o’n i’n y gwaith ac wedi e-bostio fy mhennaeth adran yn awgrymu newid rhywbeth ar-lein, a sgrifennes i “Fydden i ddim jiffad wrthi.” Nawr, ro’n i’n gwybod fy mod i wedi etifeddu’r gair “jiffad” gan un o’m rhieni, ond yn eitha’ siŵr taw gan fy nhad y dysges i’r gair. Heddiw, felly, a finnau ar ffarm Blaenfallen yn paratoi erbyn y tymor wyna dyma fi’n holi pa eiriau fydden nhw’n ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn. A dyma dat yn cadarnhau y bydde fe’n dweud “Fydda’i ddim jiffad yn gwneud hwn-a’r-llall”. Ac er taw blog am Gwmereg yw hwn, dwi ddim ishe gadael fy nhad mas ohoni chwaith, druan ag e!

Ond dyma mam wedyn yn porthi ac yn dweud “Fydda’i ddim slibit”. Diolch mam am y perl yna, eto fyth!

Sammy Morgans, Blaenfallen

Dat – Sammy Blaenfallen